Rydyn ni wedi ennill eto!!! Llongyfarchiadau i JOB TRAC CYMRU - ENILLYDD CWMNI DWYIEITHOG Y FLWYDDYN 2009 yn Noson Gwobryo Blynyddol Clwb Busnes RCT. Noddwyd y wobr yma gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Dyma Helena Jones ein Rheolwraig Datblygu Busnes yn derbyn y gwobr gan Lowri ap Robert, Bwrdd yr Iaith a Jamie Owen, BBC. Hefyd isod, gyda gwestai arbennig y noson Ruth Jones (Nessa) o Gavin and Stacey.
ARBENIGWYR RECRIWTIO SIARADWYR CYMRAEG
Asiantaeth Recriwtio ar gyfer swyddi i Siaradwyr Cymraeg yw JOB TRAC CYMRU. Rydym yn cynorthwyo cyflogwyr i chwilio am weithwyr o safon uchel sy’n siarad Cymraeg i ymuno â’u timau ac i sicrhau fod siaradwyr Cymraeg yn cael swyddi sy’n gweddu i’w dymuniadau ac sy’n defnyddio eu sgiliau yn yr iaith Gymraeg.
CHWILIO AM SWYDD?
Os ydych yn siarad Cymraeg ac yn edrych am waith gallwn eich cynorthwyo i chwilio am swydd ble mae’n bosib defnyddio eich gallu i siarad Cymraeg. Peidiwch â phoeni os nad yw eich Cymraeg yn berffaith - gallwn helpu gyda hynny hefyd, a darparu CV safonol dwyieithog a hyfforddiant mewn sgiliau cyfweld.
CHWILIO AM WEITHWYR SY’N SIARAD CYMRAEG?
Peidiwch a mynd yn bellach. Yng Nghymru mae cyflogi gweithwyr sy’n siarad Cymraeg yn rhoi mantais gystadleuol i chi gan roi mynediad i 21% yn ychwanegol o’r boblogaeth neu farchnad sydd â’r iaith Gymraeg yn iaith gyntaf. Gallwn eich cynorthwyo gyda'r broses recriwtio a dewis ym mha bynnag ffordd y dymunwch. Gallwn drefnu'r holl broses recriwtio o’r cychwyn i’r diwedd; neu yn unig asesu safon iaith Gymraeg eich ymgeisydd llwyddiannus; neu ddarparu CV’s o’n bas-data sy’n cyd-fynd a’ch gofynion. Mae popeth yn ôl eich dymuniad.
“Dros y deunaw mis diwethaf, mae Job Trac Cymru wedi darparu tri o weithwyr dros dro ar gyfer S4C. Mae sgiliau’r gweithwyr hyn wedi bod o safon uchel ac mae’r tri wedi llwyddo i gyflawni eu dyletswyddau amrywiol yn effeithiol. Mae gwasanaeth Job Trac Cymru wedi bod yn ddiffwdan a dibynadwy, gyda graddfeydd rhesymol.” Adnoddau Dynol, S4C.