Introduction
Cyflwyniad
Cofrestru
Registration
Swyddi Gwag Llawn Amser
Swyddi Gwag Rhan Amser
Newyddion / News
Lincs / Links
Hysbysebu Swydd Wag
Post a vacancy
Hyfforddiant / Training
Cyswllt / Contact
 


I gofrestru am swyddi llawn amser neu i ymgeisio cysylltwch â ni nawr ar 01443 207990 neu ebostiwch post@jobtraccymru.co.uk


(Ar gyfer swyddi dros dro tymor byr cysylltwch Tracey 07751 608780)

Mae Job Trac Cymru :  asiantaeth recriwito siaradwyr Cymraeg yn edrych am berson i ddechrau cyn gynted â phosib ar sail "dros dro i barhaol" i weithio i'n cleient -  cwmni mawr cyhoeddus yng nghanol Caerdydd.

CYHOEDDWR DWYIEITHOG
£8.50 yr awr
CAERDYDD
Dros dro i barhaol


Cyfrifoldebau Allweddol

Fel rhan o dîm, byddwch yn cyfrannu at gyflawni amcan allweddol Swyddfa Archwilio Cymru o wneud i arian cyhoeddus gyfrif.
• Cynorthwyo'r Cydlynydd Cyhoeddiadau wrth gynhyrchu cyhoeddiadau Swyddfa Archwilio Cymru mewn ffordd amserol.
• Cynghori a chynorthwyo staff ar bolisïau a gweithdrefnau cyhoeddi Swyddfa Archwilio Cymru, yn enwedig y defnydd o arddull mewnol Swyddfa Archwilio Cymru.
• Cyfieithu dogfennau bach a chynorthwyo swyddog yr iaith Gymraeg wrth gynghori staff ar bolisïau a gweithdrefnau cyfieithu.
• Cynorthwyo'r tîm cyfathrebu ehangach, yn ôl y galw ‒ megis gyda digwyddiadau a chyfathrebu allanol.

Cyflog o gwmpas £8.50 yr awr (dros dro) wedyn £16,280 - £19200 y flwyddyn - parhaol

LLAWN AMSER, Llun i Gwener

Lleoliad: Caerdydd Canolog

MANYLEB PERSON

• Addysg hyd at lefel gradd neu gymhwyster cyfatebol
• Ardystiad proffesiynol fel cyfieithydd Cymraeg yn hanfodol neu barodrwydd i weithio tuag at hynny
• Aelod o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn ddymunol
• Wedi cyflawni hyfforddiant y Gymdeithas i Olygyddion a Darllenwyr Proflenni (SfEP) neu'n barod i ddysgu.
• Gwybodaeth ymarferol ardderchog am becynnau Microsoft Office, yn enwedig prosesu geiriau a swyddogaethau fformatio, Word, Excel ac Outlook.
• Yn gyfarwydd â phecyn meddalwedd cyhoeddi Quark neu'n barod i ddysgu amdano.
• Cyffyrdd-deipio (o leiaf 50 gair y funud)
• Mae profiad o weithio mewn amgylchedd cyfathrebu a/neu gyhoeddi yn hanfodol.
• Byddai profiad o weithio mewn amgylchedd dwyieithog o fantais.
• Profiad o brawfddarllen yn Gymraeg ac yn Saesneg
• Mae rhuglder wrth siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg yn hanfodol.
• Sylw gofalus i fanylder a chywirdeb gyda Chymraeg a Saesneg ysgrifenedig o safon uchel
• Y gallu i reoli nifer o dasgau amrywiol ar yr un pryd.

I ymgeisio cysylltwch cyn gynted â phosib am swydd ddisgrifad llawn a ffurflen gais.

Dyddiad cau 14/09/10

Cynorthwy-ydd Personol i'r Prif Weithredwr / Rheolwr Swyddfa
£20,780 - £23,118 y flwyddyn pro rata
Aberystwyth
Cyfnod mamolaeth
Dyddiad Cau: 20/09/2010
Oriau: Llawn amser


Mae'n bleser gan Job Trac Cymru, asiantaeth recriwtio siaradwyr Cymraeg, y fraint o recriwtio am gwmni mawr yn Aberystwyth.

Rydyn ni'n edrych am berson sydd â sgiliau gweinyddol heb ei ail i weithio fel "Cynorthwyydd Personol" i'r Prif Weithredwr a rheolwyr eraill yn ogystal â rheoli'r swyddfa.

Bydd angen cyn profiad o swydd weinyddol ar y lefel yma ynghyd a sgiliau cyfathrebu safon uchel ar lafar ac yn y ysgrifenedig yn y Gymraeg a'r Saesneg.

I ymgeisio:

Cysylltwch am swydd ddisgrifiad llawn.

I ymgeisio bydd angen CV a llythr gais yn y Gymraeg.

Swyddog Cefnogi Cywain - Prosiectau Bwyd
£18,524 - £21,506 y flwyddyn
Caerdydd
cytundeb am flwyddyn i gychwyn
Dyddiad Cau: 20/09/2010
Oriau: Llawn amser

Mae Job Trac Cymru (asiantaeth recriwtio) yn chwilio am Swyddog Cefnogi Cywain (Amaeth) i gwmni mawr yng Nghaerdydd.

Prif Ddyletswyddau

• Darparu pob elfen o gymorth swyddfa
• Cyd-lynu cyfarfodydd mewnol ac allanol
• Trefnu digwyddiadau
• Cydlynu, casglu, cyflwyno a storio pob gwybodaeth angenrheidiol
• Datblygu a rheoli bas data a systemau casglu gwybodaeth prosiect
• Cynnal gwaith ymchwil yn ôl y galw
• Cefnogi Rheolwr a staff y prosiect yn ôl y galw
• Paratoi adroddiadau misol ar gyfer noddwyr gan weithio yn agos gyda'r Rheolwr Prosiect, yn ogystal ag adroddiadau chwarterol ar gyfer y cwmni.

Rhaid dangos cyn profiad o'r dyletswyddau uchod.

Bydd profiad o weithio'n ddwyieithog yn fantais.

Cymraeg safon uchel, ar lafar ac ysgrifenedig yn hanfodol.

I ymgeisio:

Cysylltwch am swydd ddisgrifiad llawn.

I ymgeisio bydd angen CV a llythr gais yn y Gymraeg

tracey@jobtraccymru.co.uk neu 01443 207990


EDRYCH AM WAITH? DEFNYDDIWCH EICH IAITH

Job Trac Cymru © 2005-9 TW


 
Top